SL(6)442 - Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2024

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”). Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. 

Mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â cheisiadau i gofrestru ysgolion annibynnol o dan adran 160(1) o Ddeddf Addysg 2002 ac â gwybodaeth sydd i’w darparu yn gyfnodol gan berchnogion ysgolion annibynnol o dan adran 168 o’r Ddeddf honno.

Mae rheoliad 2 a Rhan 1 o’r Atodlen yn cynnwys darpariaethau dehongli. 

Mae rheoliad 3 a Rhan 2 o’r Atodlen yn gwneud darpariaeth ar gyfer ffurf a chynnwys cais i gofrestru ysgol annibynnol o dan adran 160(1) o Ddeddf Addysg 2002. 

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyflwyno gan berchennog ysgol annibynnol ddatganiad cychwynnol o fewn 90 o ddiwrnodau i’r dyddiad derbyn neu, os yw’n ddiweddarach, i gais gan yr awdurdod cofrestru. Mae Rhan 3 o’r Atodlen yn rhagnodi’r wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y datganiad cychwynnol. 

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyflwyno gan berchennog ysgol annibynnol ddatganiadau blynyddol i’r awdurdod cofrestru. Mae Rhan 4 o’r Atodlen yn rhagnodi’r wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y datganiad blynyddol. 

Mae rheoliad 6 yn darparu y caiff yr awdurdod cofrestru, os yw wedi ei fodloni bod perchennog ysgol annibynnol wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad yn rheoliad 4 neu 5, ddileu’r ysgol o’r gofrestr. Mae rheoliad 7 yn darparu ei bod yn drosedd i berchennog ysgol annibynnol fethu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad yn rheoliad 4 neu 5. 

Mae rheoliad 8 yn dirymu Rheoliadau 2003. Mae rheoliadau 9, 10 ac 11 yn dirymu offerynnau a darpariaethau eraill sy’n diwygio naill ai Rheoliadau 2003 neu Reoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003. 

Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth drosiannol ar gyfer Rheoliadau 2003 mewn achosion pan fo datganiad cychwynnol yn ofynnol cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym neu pan ofynnir am ddatganiad blynyddol cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Mae’r Rheolau Mewnfudo, y cyfeirir atynt ym mharagraff 32 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn, i’w gweld yn https://www.gov.uk/guidance/immigrationrules/immigration-rules-index

Gweithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Caiff y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae’r Rheoliadau yn cyfeirio at gais ar-lein y gellir ei gyrchu o dudalennau’r wefan a gynhelir gan Lywodraeth Cymru. O ran hygyrchedd, efallai y byddai'n ddefnyddiol i'r darllenydd gael hyperlinc i'r cais yn y Memorandwm Esboniadol neu'r Nodiadau Esboniadol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

24 Ionawr 2024